arrowbookcheckclosecommentfacebookfavouritegooglehomeibapdfsearchsharetwitterwelsh-government

Ar Garreg Eich Drws – Mapiau

Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol. Mae'r adnodd hwn yn edrych ar sut y gallwch ymchwilio i hanes eich ardal drwy ddefnyddio mapiau Arolwg Ordnans a mapiau'r degwm fel math o ffynhonnell sydd ar gael mewn archifdai neu swyddfeydd cofnodion lleol a chenedlaethol yng Nghymru. Mae'n rhan o gyfres sy'n ffurfio'r blociau adeiladu sylfaenol er mwyn cael gwybod am hanes lleol.   

Bwriedir i'r adnodd fod yn ganllaw i athrawon, i'w helpu i ddefnyddio prif ffynonellau yn yr ystafell ddosbarth. Gall yr adnodd helpu athrawon hefyd i weithio gyda'u harchifdy lleol i ddod o hyd i ffynonellau tebyg ar gyfer eu hardal eu hunain. Ei nod yw cyflwyno athrawon a myfyrwyr i'r mathau o ffynonellau archifol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer hanes lleol ac i ymgyfarwyddo â ffurf, golwg a chynnwys y ffynonellau.   

 

Cyfnod Allweddol 2

Hanes, Sgiliau Llythrennedd, Daearyddiaeth

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 8 am 'Defnyddio Archifau i Ymchwilio i Hanes Lleol' ar gyfer CA2.

Lawrlwytho pecyn adnoddau athrawon

Mapiau.pdf Maps.pdf

  

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw