Gymru adeg y Rhyfel - Caerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Gymru adeg y Rhyfel - Caerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Sut oedd bywyd bob dydd yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd? Drwy ymchwilio i gopïau digidol o brif ffynonellau yn Archifau Morgannwg, bydd dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth o fywyd bob dydd yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. I ddechrau, bydd y disgyblion yn penderfynu ar ba ddyddiad y dechreuodd y rhyfel, yna, byddan nhw'n ymchwilio i gyrchoedd awyr, pobl yn gorfod symud o'u cynefin, dogni a Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop.
Cwricwlwm i Gymru
Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd
Hanes
Oed: 8-11 / Cam Cynnydd: 3
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
You must be logged in to leave a comment