Dyma e-lyfr (iBook) a grewyd ar y cyd gan Amgueddfa Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol yn trafod bywyd milwyr Cymru ar Ffrynt y Gorllewin yn ystod y Rhyfel Byd 1af.
Mae'r e-lyfr ar gyfer defnydd eich disgyblion. Lawrlwythwch y ffeil iBooks i'w ddefnyddio gyda iOS, neu ar gyfer Windows a rhaglenni eraill lawrlwythwch y PDF.
Dilynwch y dolenni er mwyn gweld enghreifftiau o eitemau o'r Rhyfel Byd Cyntaf, a lluniau o nifer o'r gwrthrychau a delweddau sydd yn cael eu cynnwys yn yr e-lyfr.
Cardiau post: Gall eich dosbarth lunio cerdyn post wedi ei ysbrydoli gan rai'r milwyr Cymreig, a'u uwchlwytho ar wefan Casgliad y Werin. Gallent greu casgliad ohonynt neu ddweud mwy amdanynt drwy lunio stori.
Gwrthrychau a delweddau: Cynlluniwch gasgliad o eitemau er mwyn creu arddangosfa ddigidol ar-lein o ddelweddau neu wrthrychau trawiadol.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw