Skip to main content

Lluniau John Cornwell

Ffotograffydd ar ei liwt ei hun oedd John Cornwell. Yn y saithdegau a'r wythdegau cynnar, tynnodd nifer o ffotograffau o byllau glo, yn Ne Cymru a Chanolbarth Lloegr yn bennaf, a hynny ar yr wyneb a danddaear. Perffeithiodd dechneg o dynnu ffotograffau danddaear oedd yn defnyddio goleuadau cyffredin pwll glo, gan alluogi iddo dynnu lluniau hynod eglur o dalcenni glo, twnneli, siafftiau ac offer. Yn ogystal â thynnu ffotograffau mewn pyllau gweithredol, byddai hefyd yn cofnodi gweithfeydd segur, ar yr wyneb a danddaear. Roedd John Cornwell hefyd yn uchel ei barch ym maes archaeoleg ddiwydiannol. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar byllau glo Cymru a Lloegr. Mae hawlfraint ei ddelweddau o dde Cymru bellach ym meddiant Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

 

Cwricwlwm i Gymru

Dyniaethau, Celfyddydau Mynegiannol

Pobl Enwog Cymru

Oed / Cam Cynnydd: Pawb

 

Casgliad Dysgu

Rydym wedi casglu'r eitemau hyn gyda'i gilydd fel y gallwch eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd fel adnoddau i greu gweithgareddau ar gyfer eich dosbarth.

Wedi ddefnyddio'r casgliad hwn yn eich dosbarth?

Gadewch sylw a dywedwch wrthym sut, i rannu'ch syniadau gydag athrawon eraill.

You must be logged in to leave a comment