Tîm Cyntaf Clwb Rygbi Dinbych/Denbigh Rugby Club Tymor 1979/80.
Disgrifiadau
Yn dilyn buddugoliaeth mewn gêm galed yn Nolgellau, aeth Dinbych drwodd i'r drydedd rownd o gystadleuaeth Cwpan Bragwyr Cymru am y tro cyntaf, a’u gwrthwynebwyr oedd Clwb Rygbi Glan-y-Fferi ger Llanelli, y gêm i’w chwarae yn Ninbych.
Nodwyd yn y papur lleol, er i Ddinbych golli, cafwyd perfformiad dewr cyn ildio’r gêm i Glan-y-Fferi mewn gêm gyffrous gyda’r dorf yn cael eu diddanu am yr 80 munud.
Yn y llun gwelir Tîm Cyntaf Clwb Rygbi Dinbych a berfformiodd mor ddewr yn erbyn Glan-y-Fferi:
CEFN: R Bruce, S Powell, B Davies, P Minshull, A Jones, G Richards, D Roberts, G Jones (Eilydd), P Davies ac I. Madoc-Jones;
BLAEN: G Williams, R Jones, P Jones, D W. Jones (Capten), H Voyle,I Marshalsay a B Parry (Eilydd)
Yn ystod y tymor enillodd Dinbych 20 gêm allan o 32 a chwaraewyd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment