Berwyn Evans, Cadeirydd Cyntaf Clwb Rygbi Dinbych
Berwyn Evans, Cadeirydd Cyntaf Clwb Rygbi Dinbych
Disgrifiadau
Berwyn Evans, Pennaeth Addysg Gorfforol yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl, oedd y prif sbardun y tu ôl i ffurfio Clwb Rygbi Dinbych/Denbigh Rugby Club. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr ein cymdogion agos, Clwb Rygbi Rhuthun pan atgyfodwyd y clwb ym 1960. Berwyn oedd Cadeirydd cyntaf Clwb Rygbi Dinbych rhwng 1977-1980 ac yn Llywydd yn ystod dau gyfnod (1980-83) a (2004-07). Roedd yn un o sefydlwyr Ieuenctid Y Rhyl ac Ieuenctid Clwyd a bu’n cynrychioli Gogledd Cymru ar Bwyllgor Cenedlaethol Undeb Rygbi Ysgolion Uwchradd Cymru.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment