Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Project addysg ffilm gymunedol gan Neuadd Les Ystradgynlais yw Cynefin – Ein Croeso.
Yn 2018 bu tîm celf gymunedol Neuadd Les Ystradgynlais yn cydweithio ag Ysgol Maesydderwen, Ysgol Dyffryn y Glowyr a theuluoedd o Syria sydd wedi ymsefydlu yn y dre, er mwyn adrodd hanesion ffoaduriaid ddoe a heddiw. Cydweithiodd y cwmni animeiddio o fri, Winding Snake Productions â’r gymuned i greu dwy ffilm. Mae’r ffilmiau yn rhannu straeon am y croeso a roddodd Ystradgynlais i bobl sy’n ffoi rhag rhyfel, a sut y bu’r dref yn lloches iddynt.
Cafodd y project ei gefnogi gan Gronfa Addysg Ffilm Cymru Wales. Mae’r gronfa hon yn cynnwys arian loteri Cyngor Celfyddydau Cymru ac arian cymorth grant y Sefydliad Ffilm Prydeinig.
Ffilm fer am yr artist Pwylaidd, Josef Herman yw Cynefin. Cafodd ei chreu gan yr ysgolion, a chaiff ei lleisio gan seren Hollywood, Michael Sheen. Y disgyblion talentog gafodd y syniad, nhw wnaeth ysgrifennu’r sgript a chreu’r cymeriadau, a buont yn rhoi cynnig ar animeiddio gan greu sgôr hefyd gyda’r gyfansoddwraig Tic Ashfield, sydd wedi ennill gwobr BAFTA.
Cafodd Uncle Ahmad’s Canaries ei chreu yn Neuadd Les Ystradgynlais gyda theuluoedd o Syria sy’n byw yn yr ardal, ac mae’n seiliedig ar eu straeon am fudo i Gymru ac ymgartrefu yn y Cymoedd. Roedd y teuluoedd hefyd yn rhan o greu’r animeiddiad – stori deimladwy am obaith a pharhad.
Mae yna hefyd fideo o’r broses sy’n datgelu mwy am sut y cafodd y ffilmiau eu creu.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw