CLWB RYGBI DINBYCH - Calon Ein Cymuned
Disgrifiadau
Cyhoeddwyd llyfr yn amlinellu deugain mlynedd cyntaf o fodolaeth y Clwb ym mis Gorffennaf 2018.
Roeddem yn ffodus iawn i allu galw ar wasanaethau amhrisiadwy Ed Bruce, yr arbenigwr byd-enwog yn y maes Effeithiau Gweledol, ac sydd wedi ei leoli yn Nulyn. Roedd Ed yn barod iawn i gytuno i ddylunio clawr hynod wreiddiol a thrawiadol ein llyfr.
Mae Ed yn gyn-chwaraewr gyda’r Adran Mini Iau, ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Twm o'r Nant ac Ysgol Uwchradd Dinbych ac wedi bod yn VFX (Goruchwyliwr Effeithiau Gweledol) sy'n gweithio fel artist digidol 3D ers troad y ganrif. Mae wedi derbyn sawl gwobr ac enwebiad mawreddog gan y diwydiant, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, am ei waith ar, i enwi dim ond ychydig, ‘Ripper Street’, ‘Game of Thrones’ a ‘The Frankenstein Chronicles’.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment