Grŵp o ddarganfyddiadau o ddiwedd Oes y Cerrig, ardal y Fenni
Grŵp o ddarganfyddiadau o ddiwedd Oes y Cerrig, ardal y Fenni
Disgrifiadau
Mae'r darganfyddiadau'n y ffotograff hwn yn cynnwys bwyeill gloywon o fflint a charreg sy'n nodweddiadol o'r cyfnod hwn. Gall y bwyeill hyn, wedi iddynt gael eu coesio, dorri coed bach. Mae'r darn o grochenwaith a ddangosir yma o'r math a ddarganfuwyd ym Mhrydain tua'r flwyddyn 3500 CC. Roedd yn perthyn unwaith i lestr â gwaelod crwn a oedd wedi'i addurno'n fawr. Dechreuwyd defnyddio'r arteffact olaf, pen saeth siâp deilen, tua 4000 CC. Mae bwâu pren a ddarganfuwyd yn ddiogel yn y Somerset Levels yn dangos mai bwa log, yn ôl pob tebyg, oedd yr arf hela a ffafriwyd yn ystod y cyfnod hwn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment