"Whiskey" y Bergi, 19eg ganrif
Disgrifiadau
Defnyddiwyd bergwn hyd at ganol y 19eg ganrif fel modd o arbed y cogyddion yn y cartrefi mawr rhag troi'r cig ar gigwain â llaw. Byddai'r ci yn cael ei osod mewn olwyn fechan oedd yn gysylltiedig â'r gigwain ac wrth iddo redeg byddai'r gigwain yn troi.
Er mwyn osgoi gorweithio'r ci gyda'r gwaith poeth ac annymunol hwn, yn aml cadwyd hwy mewn parau er mwyn iddynt weithio mewn shifftiau. Credir mai dyma yw tarddiad y ddihareb 'daw haf i gi' (every dog has his day).
'Whiskey' yw'r enghraifft olaf o fergi sydd wedi goroesi, er ei fod wedi'i stwffio. Ymddengys bod y brîd wedi diflannu gyda dyfodiad peiriannau'r gegin.
Ffynhonnell:
Cunliffe, J (1991) 'The Turnspit'. Kennel Gazette, tudalennau 20-22.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment