Blwch Pleidleisio Cyfrinachol Awtomatig Cyntaf, 1870
Disgrifiadau
Cynlluniwyd, dyfeisiwyd a chynhyrchwyd y bocs pleidleisio cyfrinachol hwn gan William Gould ac fe'i harddangoswyd am y tro cyntaf yn Ystafelloedd yr Ysgol Genedlaethol, Merthyr Tudful, ar 9 Ebrill 1870.
Roedd William yn Siartydd a ymgyrchodd dros ddynion dosbarth gweithiol i ennill y bleidlais. Sylweddolodd William fod yn rhaid cadw pleidlais pob dyn yn gyfrinachol fel na allai diwydianwyr a thirfeddianwyr ddylanwadu ar eu pleidlais. Roedd yr egwyddor y tu ôl i'w flwch pleidleisio yn syml. Roedd gan bob pleidleisiwr docyn a phob ymgeisydd ei flwch pleidleisio ei hun. Rhoddodd y pleidleisiwr y tocyn yn y blwch o'u dewis a chofrestrwyd y bleidlais erbyn wyneb y cloc ar y blwch. Fodd bynnag, er gwaethaf ymgyrchu, ni chafodd ei syniad ei fabwysiadu gan yr awdurdodau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment