arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Pamela Shepherd (1836-1930), neu 'Mother Shepherd' fel yr oedd yn fwyaf adnabyddus, oedd sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth yn Aberdâr. Roedd yn ffigwr arloesol gyda'r mudiad yn y dref, ac fe'i cofir am ei hymdrechion i ddiwygio 'pechaduriaid' y gymuned ddiwydiannol ffyniannus ond afreolus hon.

Credir mai Sally, merch Mother Shepherd, oedd un o'r cyntaf i gyflwyno'r tambwrîn i fudiad Byddin yr Iachawdwriaeth fel modd o ddal sylw'r cyhoedd yn ystod y gorymdeithiau.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw