arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Disgrifiad

Ganed Henry Richard (1812-88) yn Nhregaron, Sir Aberteifi. Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Llundain cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Merthyr Tudful ym 1868. Roedd yn cael ei adnabod fel 'Yr Apostol Heddwch' yn rhinwedd ei waith gyda'r Gymdeithas Heddwch. Cafodd ei benodi yn ysgrifennydd y Gymdeithas ym 1848 ac yn rhinwedd ei swydd bu'n golygu papur newydd y Gymdeithas, 'Herald of Peace'. Bu hefyd yn gyfrifol am drefnu cyfres o gynadleddau heddwch pwysig ym mhrif ddinasoedd Ewrop yn ystod y cyfnod 1849-53.

Tynnwyd y ffotograff hwn gan John Thomas ar achlysur dadorchuddio cofeb Henry Richard yn Nhregaron ar 18 Awst 1893. Cynlluniwyd y gofeb gan Albert Toft. Ar y plac o dan y gofgolofn y mae'r geiriau isod wedi eu cerfio'n Gymraeg ac wedyn yn Saesneg:

'Ganwyd yma yn Nhregaron addysgwyd ef i'r weinidogaeth gristnogol ac yn 1835 ordeiniwyd ef yn Llundain. Yn 1848 apwyntiwyd ef yn ysgrifennydd i'r Gymdeithas Heddwch ac enillodd fri rhyngwladol fel "Apostl Heddwch". Yn 1868 daeth yn A. S. dros etholaeth Merthyr. Ac oherwydd ei sel dros faterion Cymreig fe'i adwaenwyd fel "Yr Aelod Seneddol dros Gymru". Roedd hefyd yn arloeswr blaenllaw ym myd addysg. Gwasanaethodd ar amryw gomisiwn ymholi ac yn 1883 daeth yn is-lywydd cyntaf Coleg Prifysgol Caerdyff. "Cedwais dri pheth mewn cofy yn barhaus: peidio anghofio iaith fy ngwlad: a phobl ac achos fy ngwlad a pheidio esgeuluso unrhyw gyfle i amddiffyn cymeriad a hyrwyddo buddiannau fy ngwlad." "Gorwedd fy ngobeithion am ddifodiant y gyfundrefn ryfel yn argyhoeddiad barhau y bobl yn hytrach nag ym mholisiau cabinet a thrafodaethau senedd."'

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw