Hen Feibl Annwyl Mam
Disgrifiadau
Pan aeth Roy Saer, cyn-guradur yr Amgueddfa, i gyfweld ag ef, roedd Bertie Stephens yn cofio caneuon o'i blentyndod yn glir. Ei ffefrynnau oedd y caneuon crefyddol am ei fod yn teimlo bod mwy o sylwedd iddyn nhw na'r caneuon digri. Gallai caneuon fel Beibl Mam afael mewn perfformiwr, a phwysleisiodd ei bod hi'n hanfodol rhoi'ch cymeriad i gyd i mewn i bob cân.Clywodd ddyn mewn dillad anniben â Beibl dan ei gesail yn canu cân arall am y Beibl, Hen Feibl Mawr y Teulu, ar daith i'r Mwmbwls. Fel un o deulu crefyddol, tristaodd Bertie Stephens o weld y canwr yn defnyddio'r Beibl i godi arian i brynu cwrw.Roedd pobl yn gallu bod yn amheus o'r baledwyr a byddai'r heddlu'n aml yn arestio crwydraid meddw mewn dillad anniben am darfu ar yr heddwch. Dywedodd Bertie Stephens hanes am ei deulu'n rhoi bwyd a lloches i ddau grwydryn un noson, a dysgodd y ddau Gân yr Asyn iddo'n ddiolch. Er mawr siom i dad Bertie, canfu wythnosau wedyn eu bod nhw wedi dwyn peth o'i wlân newydd ei gneifio. Diolch i berfformiad ei fab o Gân yr Asyn, llwyddodd yr heddlu i ddal y dihirod ger Caerfyrddin pan glywsant y ddau'n canu'r un faled yn yr ardal honno.Wrth i'r diwydiant diddanu dyfu ac wrth i bethau fel y sinema a'r neuaddau cerdd ddod yn fwy poblogaidd, collodd y baledwyr eu hapêl, ac erbyn dechrau'r 20fed ganrif, roedden nhw wedi diflannu bron yn llwyr. Wrth i'r cyngherddau ffurfiol ddod yn boblogaidd, symudodd yr hen faledi dan do, a'u daethon nhw'n lanach ac yn fwy parchus.Yn ffodus ddigon, daeth dirywiad y baledi'r ffair a'r stryd yr un pryd â diddordeb newydd mewn casglu alawon a gwybodaeth am y grefft, a ffurfiwyd Cymdeithas Ganeuon Gwerin Cymru ym 1908. Nid oes unrhyw amheuaeth am werth baledi fel sylwebaeth gymdeithasol bwysig, ac mae ein gwybodaeth am y cyfansoddiadau hanesyddol hyn llawer cyfoethocach diolch i unigolion fel Bertie Stephens.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment