Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Daeth y darlledwr Wilfred Pickles i Raeadr Gwy ar ddydd Gŵyl Dewi, Mawrth 1955, i ddarlledu'r rhaglen radio 'Have a Go'. Yn ystod ei ymweliad â Rhaeadr, cafodd Wilfred Pickles ei gario o amgylch y dref; hefyd, derbyniodd eog 10 pwys yn anrheg gan drigolion y dref - roedd y pysgodyn wedi cael ei ddal yn Afon Gwy y diwrnod hwnnw. Cyhoeddwyd y ffotograff hwn yn y 'Montgomeryshire Express', 5 Mawrth 1955.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw