Disgrifiad

Ysgrifennwyd y llyfr oriau goliwiedig hwn yn Florence yng nghanol y bymthegfed ganrif ac mae'n cynnwys addurniadau gan Zanobi Strozzi.

Daeth y llawysgrif i Gymru ym 1846 yn rhodd i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, gan Thomas Phillips (1760-1851). Rhoddodd Thomas Phillips gyfanswm o 22,500 o lyfrau i'r Coleg, ac ynghyd â'r casgliadau a roddwyd ac a adawyd yn ewyllysiau'r Esgob Burgess a'r teulu Bowdler, daeth llyfrgell y coleg yr un fwyaf a'r mwyaf cynhwysfawr yng Nghymru.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw