Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyfeisiwyd y 'Stepney Spare Motor Wheel' ar gyfer ceir modur gan T. M. Davies ym 1904. Roedd Davies a'i frawd Walter yn berchen ar fusnes haearnwerthu yn Llanelli. Ar y pryd, roedd ceir yn cael eu cynhyrchu heb olwynion sbâr a datblygodd T. M. Davies ddyfais y gellid ei defnyddio fel olwyn sbâr. Roedd ei ddyfais yn boblogaidd iawn ac aethpwyd ati i gynhyrchu llawer ohonynt yn y ffatri yn Llanelli. Rhoddwyd hwb i'r gwerthiant dramor gan wahanol asiantaethau ac yn ddiweddarach, ffatri deiars yn Walthamstow. O'r flwyddyn 1922, daeth y cwmni yn adnabyddus dan yr enw 'Stepney Tyres Ltd' ac fe gaewyd y ffatri yn Llanelli wrth i gynhyrchwyr ceir ddechrau cynnig olwynion sbâr gyda'u moduron.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw