Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r darlun hwn yn dangos golygfa yn Bafaria lle mae'r gwerinwyr ar daith weddo yn y mynyddoedd. Mae allor i'w gweld ym mlaen y darlun. Hunanbortread o'r artist yw'r cymeriad a welir ar ben y darlun yn gwylio'r orymdaith. Mae'r cymeriad hwn yn gwylio'r ferch ar ben yr orymdaith; meistres yr arlunydd yw hon, sef Lulu Griffiths. Daeth Herkomer yn adnabyddus fel arlunydd a oedd yn portreadu realaeth gymdeithasol. Ei noddwr cyntaf a phwysicaf oedd Charles William Mansel Lewis, Castell Strade, Llanelli. Ar l gwerthu 'Der Bittgang' ym 1883 i Syr Stafford Howard, paentiodd Mansel Lewis gopi maint-llawn yn lle'r darlun gwreiddiol. Mesuriadau: 101cm x 147cm. Olew ar gynfas.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw