Skip to main content

'In the Golden Weather' gan Charles William Mansel Lewis, 1905 (olew)

Disgrifiadau

Cafodd y darlun mawr hwn gan Charles William Mansel Lewis o Gastell Strade, Llanelli, ei arddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1905. Roedd gweithiau cynnar Mansel Lewis yn dangos dylanwad ei gyfaill mawr, Hubert von Herkomer. Mae'r darlun hwn yn llawer mwy telynegol na'u dirluniau cynharach, realaidd, a oedd weithiau'n cynnwys pobl wrth eu gwaith. Yn ei weithiau cynnar, roedd Lewis yn ffafrio arddull dwys a lliwiau gwan. Llwyddodd i greu'r effaith argraffiadol drwy grafu'r paent i ddatgelu'r paent gwyn oddi tanodd. Pwll Strade yw'r olygfa a welir yn y darlun hwn, sef un o hoff lecynnau'r arlunydd ar ei ystd. Nifer bychan iawn o ddarluniau Charles William Mansel Lewis sydd bellach i'w cael mewn casgliadau cyhoeddus. Mesuriadau: 101 x 147 cm. Olew ar gynfas.

Owner:
Parc Howard Museum and Art Gallery
Crëwr:
Lewis, Charles William Mansel
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa ac Oriel Gelf Parc Howard
Copyright Details:
Amgueddfa ac Oriel Gelf Parc Howard 1970
Publisher Ref:
GTJ11370
Eitem wedi’i llwytho:
2/2/2010
Date originally created:
1905
Gwelediadau:
1696
Ffefrynnau:
1

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment