Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Priododd Baner-ringyll George Chambers, o Gatrawd Rhif 24 y Traedfilwyr, Margaret Lewis yn Aberhonddu ar 17 Ebrill 1875 - cyflwynwyd cwpan 'Coalport' iddynt ar yr achlysur hapus. Roedd Chambers wedi dychwelyd i Gymru o Gibraltar y mis Ionawr blaenorol i gymryd cyfrifoldeb am gwmni recriwtio'r Gatrawd. Yn dilyn ei gyfnod gyda'r Rhif 24 yn Aberhonddu, cyflwynwyd ail gwpan 'Coalport' yn anrheg i George a Margaret gan y milwyr. Ymrestrodd George gyda'r Rhif 24 yn Corc ym 1864 pan oedd yn ddeunaw oed a hanner a bu'n gwasanaethu yn Iwerddon, Malta a Gibraltar. Roedd gyda'r 1/24ain Milwyr Traed fel aelod o luoedd Arglwydd Chelmsford a fu'n ymladd yn Isandhlwana ar 22 Ionawr 1879 pan drechwyd chwe chwmni o'r Gatrawd Rhif 24 gan 25,000 o ryfelwyr Zwlw. Mae'r cwpanau hyn yn gofebau teimladwy i'r milwr dewr hwn.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw