Bidi Griffiths yn sôn am ei thad Norman Davies a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Disgrifiadau
Roedd Norman yn fab i ysgolfeistr ym Mhenfro ym Sir Benfro. Aeth i Goleg y Drindod yng Nghaerfyrddin am gwrs 2 flynedd. Daeth allan gyda CM, a chafodd swydd fel prifathro yn Ysgol Nantycaws. Pan ddaeth y Rhyfel, cafodd ei alw lan yn weddol gynnar gan yr oedd yn y 'Territorials' yn ystod ei amser yng ngholeg. Mae gan Bidi erthygl a gafodd ei brintio yng nghylchgrawn Coleg y Drindod yn 1914, sy'n son am bwysigwydd y 4ydd Batrisiwn Gatrawd Cymreig (College Company) wrth i'r myfyriwr ffit cynnig eu hyn i wasanaethu. Cafodd y dynion eu anfon i Bedford am fwy o hyfforddiant, ac yn nyddiadur Norman cawsant eu gyrru o Bedford am 5y.b. i'r 'port of embarkation'. Am 3y.b. y diwrnod ar ol hynny, cyrhaeddon nhw yn Devonport i fynd ar HM Transport Lutzau, cwch oedd arfer berchen i'r Almaenwyr. Mae Norman yn mynd ymlaen i ddisgrifio yr sefyllfa ar y cwch, ac ei profiad personol yn ystod y trip, e.e. mae amodau y dec is yn "insufferable". Aeth ar parêd gwlys, lle canodd y dynion 'Hen Wlad Fy Nhadau'. Wrth gyrraedd ym Morthmadog i'w hyfforddiant, deallodd y dynion bod gorchmynion symudiad wedi'u rhoi allan. Roedd rhaid brysio nol i Gaerfyrddin, lle roedd rhaid rhoi defnydd newydd i neuaddau y Coleg. Gadawsant Caerfyrddin ar Awst y 5ed, ac aethon nhw ar drên mor bell a Milford. Ar ol hynny, roedd rhaid mynd i Dale ar droed, taith nad yw Norman yn hoff o'i chofio. Nid oedd Norman yn siarad llawer am y Rhyfel, ond mae un stori ddoniol mae Bidi yn cofio- wrth ofyn i ddyn faint mor bell oedd hi i Dale, atebodd "about four mile"; wrth ofyn i ddyn arall, atebodd yr un peth. I hyn, dywedodd un o'r milwyr, "Well, thank God that we're holding our own."
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment