Sian Davies yn sôn am ei thad Tom Evans a wasanaethodd yn y Rhyfel Mawr - Rhan 2, 2018
Disgrifiadau
Roedd gan Tom Evans un dyddiadur 1.5" x 1.5", daethpwyd o hyd iddo gan fy nghyfnither mewn atig yng Nghaer ychydig flynyddoedd yn ôl. Anfonodd y dyddiadur i mi. Dyma'r ddogfennaeth gyntaf, ar wahan i lyfr R. R. Williams. Priododd pan yn 40 oed. Fe'm ganed pan oedd fy nhad yn 50 oed, felly dim ond 19 oed oeddwn pan fu farw. Ysgrifennodd ar y 23ain o Fai - 'Just to note -'I am 21 today'. Ar dudalen arall mae'n nodi - 'We had a Communion Service today'. 'We had Holy Communion at 7 o'clock in the Operating Tent. One of the Officers was very ill and they decided to hold it there. It hadn't been prepared properly and they had used the Red Cross as a Cross behind what they used as an Altar.'
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment