Het Bersagier a wisgwyd gan Gwmni Abersychan, Reifflwyr Gwirfoddol Sir Fynwy, 1862
Het Bersagier a wisgwyd gan Gwmni Abersychan, Reifflwyr Gwirfoddol Sir Fynwy, 1862
Disgrifiadau
Ym 1862, gorchmynnodd Arglwydd Rhaglaw Sir Fynwy, Arglwydd Llanofer, y dylai'r het Bersagieri grand hwn, o'r math a wisgwyd gan 'Chwimsaethwyr' Eidalaidd, gael ei gwisgo gan Gwmni Abersychan, Reifflwyr Gwirfoddol Sir Fynwy. Fodd bynnag, roedd yr hetiau mor amhoblogaidd ymhlith y milwyr Cymreig, nifer ohonynt yn lowyr lleol, fel y bu'n rhaid anghofio amdanynt flwyddyn yn ddiweddarach. Mae'r het yn cynnwys bathodyn pres pluog gyda'r rhif '36' - sef safle hynafedd Gwirfoddolwyr Sir Fynwy yn rhengoedd yr unedau gwirfoddol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment