Skip to main content

Neges olaf Cyrnol Henry Pulleine o Isandlwana, Gwlad y Zwlw, 22 Ionawr 1879

Disgrifiadau

Wedi symud ymlaen i Wlad y Zwlw, yn gynnar ar 22 Ionawr 1879, rhannodd Yr Arglwydd Chelmsford ei fyddin yn ddwy. Aeth un hanner i edrych am brif fyddin y Zwlw, gan adael yr hanner arall yn y gwersyll yn Isandhlwana o dan awdurdod Cyrnol Henry Pulleine 1/24ain. Ymosododd y Zwlŵaid ar y gwersyll gyda 25,000 o ryfelwyr. Lladdwyd 850 o'r 1,700 o filwyr Prydeinig a Threfedigaethol yn y gwersyll. Collodd Milwyr Traed Rhif 24 - Cyffinwyr De Cymru yn ddiweddarach - 596 o ddynion y diwrnod hwnnw. Mae neges olaf y Cyrnol Pulleine at yr Arglwydd Chelmsford yn darllen fel a ganlyn:
'Staff Officer - Report just come in that Zulus are advancing in force from the left front of the cam (8.5 am). H B Pulleine, Lt. Col'.
Derbyniwyd y neges am 9.30 y bore gan y Capten Hallam Parr, Swyddog Staff ar y maes gyda'r Arglwydd Chelmsford.

Owner:
The Regimental Museum of The Royal Welsh
Crëwr:
Pulleine, Henry
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Cyffinwyr De Cymru
Copyright Details:
Amgueddfa Cyffinwyr De Cymru 2003
Publisher Ref:
GTJ11316
Eitem wedi’i llwytho:
2/2/2010
Date originally created:
22/1/1879
Gwelediadau:
2679
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment