Skip to main content

Beibl a ysgrifennwyd yn Normandi, 1279 [delwedd 1 o 21]

Disgrifiadau

Beibl Fwlgat Lladin, a ysgrifennwyd yn Normandi ym 1279. Ysgrifennwyd y Beibl dros gyfnod o dair mlynedd a mwy ac fe'i gwblhawyd ym 1279 gan fynach cloff o Fécamp (gŵr yr oedd ei enw'n dechrau â'r llythyren 'G'), ar gyfarwyddyd ei abad, James [Jacobus], ym mynachdy St. Pierre-sur-Dives, Normandi, (yn ôl y nodyn yng ngefn y llawysgrif). Ysgrifennwyd y Beibl at ddefnydd y fynachdy. Mae'n bosibl mai Abad James yw'r cymeriad sydd wedi ei bortreadu ar ffolio 233v. Mae'r Beibl wedi ei addurno gydag addurnlythrennau a llythrennau bach. Mae Neil Ker o'r farn bod tua 40 o dudalennau ar goll a dim ond testun Salmau 1-118 (a ychwanegwyd yn llaw rhywun arall ar ddiwedd y 15fed ganrif) sydd wedi goroesi.
Roedd y llawysgrif wedi cyrraedd Lloegr erbyn y bymthegfed ganrif neu ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg, ac mae'n debyg ei fod yn eiddo i'r Carthwsiaid, gan fod enwau Saesneg yn ymddangos mewn sawl man, e.e. 'W. Crofton [neu Croston]' ar ffolio 1. Byddai'r Beibl wedi mynd ar wasgar, ynghyd â llyfrgelloedd mynachaidd eraill, ar achlysur Diddymu'r Mynachlogydd (1536-40), os nad yn gynt. Ni wyddys beth yn union ddigwyddodd i'r Beibl cyn iddo ddod i ddwylo Thomas Burgess. Daeth y Beibl i Lanbedr Pont Steffan ynghyd â gweddill ei lyfrau yn dilyn ei farwolaeth ym 1847. Cafodd y gyfrol ei hailrwymo yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1947.
Darllen pellach: N. R. Ker, 'Medieval Manuscripts in British Libraries, III Lampeter - Oxford' (Oxford, 1983), tt. 1-2.

Owner:
University of Wales, Lampeter
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Prifysgol Cymr
Copyright Details:
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan 2003
Publisher Ref:
GTJ10983
Eitem wedi’i llwytho:
1/2/2010
Date originally created:
1279
Gwelediadau:
1554
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment