Sêl Trefol Hwlffordd
Sêl Trefol Hwlffordd
Disgrifiadau
Mae'r sêl gyffredin hon yn dyddio, yn ôl pob tebyg, tua'r flwyddyn 1291 pan roddodd Edward I eu siarter i fwrdeiswyr Hwlffordd. Mae'r gwrthdro yn dangos llong un hwylbren gyda stae blaen, stae ôl, rhaffau a hwylraffau, corff llong astyllog, llyw ochr, a chestyll caerog blaen, ôl a thop y byddai saethyddion yn saethu i lawr ar fyrddau llongau y gelyn. Yn y blaendir mae morwr yn chwythu corn, yn y castell ôl mae un arall yn seinio trymped; oddi tanodd mae gwifr (draig dwy goes) gyda llew rhemp i'r chwith ac eryr ar glwyd ar y dde.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment