arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon

Disgrifiad

Teitl llawn y gyfrol hon yw: 'The Physicians of Myddvai; Meddygon Myddfai, or the medical practice of the celebrated Rhiwallon and his sons, of Myddvai, in Caermarthenshire, physicians to Rhys Gryg, Lord of Dynevor and Ystrad Towy, about the middle of the thirteenth century, from ancient MSS in the libraries of Jesus College, Oxford, Llanover and Tonn; with an English translation: and the legend of the Lady of Llyn y Van'. Cyfieithwyd y llawysgrifau gan John Pughe, Ysw. FRCS, Penhelyg, Aberdyfi ac fe'u golygwyd gan y Parchedig John Williams ab Ithel MA, Rheithor Llanymawddwy. Cyhoeddwyd y gyfrol ym 1861.

Roedd 'Meddygon Myddfai' yn deulu o feddygon gwlad a oedd yn byw ym mhlwyf Myddfai, Sir Gaerfyrddin. Credir eu bod yn ddisgynyddion i Rhiwallon Feddyg a'i feibion, Cadwgan, Gruffudd ac Einion, sef meddygon Rhys Gryg, Arglwydd Dinefwr yn y 13eg ganrif. Yn ôl yr hanes, parhaodd aelodau'r teulu i ymarfer meddygaeth yn yr ardal hyd y 18fed ganrif. Mae cerrig beddi'r ddau feddyg olaf, David Jones (m. 1719) a John Jones (m. 1739) i'w gweld heddiw yn eglwys y plwyf Myddfai.

Cyflwynir detholiad bychan yma o lawysgrifau 'Meddygon Myddfai' er mwyn rhoi blas ar gynnwys y meddyginiaethau a'r arferion meddygol a ddefnyddid ganddynt. Mae'r meddyginiaethau yn cynnwys nifer o 'rysetiau' llysieuol i wella anhwylderau amrywiol gan gynnwys y ddannoedd, y peils (clwyf y marchogion) ac anadl drwg.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw