Cynllun ar gyfer y tyrrau bychain y tu mewn i'r cwadrangl, Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, gan C. R. Cockerell, Ebrill 1822
Disgrifiadau
Comisiynwyd Charles Robert Cockerell (1788-1863) i gynllunio'r coleg newydd yn Llanbedr Pont Steffan ym 1821. Ef oedd un o benseiri mwyaf gwreiddiol ei genhedlaeth ac roedd ei gynlluniau yn adlewyrchu'r tri cham yn natblygiad y cynllun. Yn gyntaf, cyflwynodd ei gynllun cyntaf ym 1821; yna, yn ail, ehangodd ar y cynllun hwnnw yn dilyn gosod y garreg sylfaen ym 1822, pan ymddangosai'n debygol y byddai mwy o arian ar gael na'r hyn a feddyliwyd yn wreiddiol; ac yna, yn drydydd, cyflwynodd y cynlluniau terfynol a gwblhawyd ym 1823, ac a addaswyd er mwyn darparu mwy o lety am bris is.
Ffynhonnell: D. T. W. Price, 'A History of Saint David's University College Lampeter Volume One: to 1898' (University of Wales Press: Cardiff, 1977)
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment