Amlinell o Thomas Burgess (1756-1837)
Amlinell o Thomas Burgess (1756-1837)
Disgrifiadau
Thomas Burgess (1756-1837) oedd sylfaenydd Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Roedd yn esgob Tyddewi rhwng 1803 a 1825 ac esgob Salisbury o 1825 hyd ei farwolaeth.
Mae'r amlinell cain hwn yn dangos Burgess yn eistedd mewn cadair yn wynebu'r chwith, yn gwisgo socasau, ffedog, ffrog-côt a wig; mae'n gwisgo cysgodlen gan ein hatgoffa o'r ffaith i olwg y gŵr addysgedig a'r darllenwr mawr hwn ddirywio'n enbyd tua diwedd ei oes.
Ffynhonnell: A. J. Brothers, 'Art at Lampter', yn 'A bold imagining: University of Wales Lampeter 1827-2002', Keith Robbins a John Morgan-Guy (goln.), 2003
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment