'Fifteen views illustrative of a tour to Hafod in Cardiganshire' gan J. E. Smith (1810), clawr [delwedd 1 o 46]
Disgrifiadau
Teitl llawn y gyfrol hon yw:' Fifteen views illustrative of a tour to Hafod in Cardiganshire, the seat of Thomas Johnes Esq., MP' gan J. E. Smith (1810). Mae'r Lluniau sydd yn ymddangos yn y gyfrol yn gopïau gan J. C. Stadler (fl. 1780-1812) o luniau gwreiddiol gan yr arlunydd John Smith. Mae'r daith yn dechrau yn Llundain gan ddilyn y ffordd i Gaerfaddon a Bryste, cyn teithio drwy Gas-gwent, gan basio Abaty Tyndyrn, ac yna ymlaen i Faesyfed ar y ffordd i ganolbarth Cymru. Yn ogystal â disgrifio'r plasdy a'r gerddi yn yr Hafod, mae'r awdur hefyd yn teithio i Gwm Rheidol gerllaw pentref Pontarfynach.
Etifeddodd Thomas Johnes ystad ddadfeiliedig yr Hafod ym 1780 yn dilyn marwolaeth ei dad. Teithiodd o gartref ei rieni yn Swydd Henffordd i Gwmystwyth gan syrthio mewn cariad â'r golygfeydd gwych. Cyn pen dim, roedd wedi dechrau ar ei gynllun uchelgeisiol i weddnewid yr ystad. Adeiladodd blasdy newydd, ac aeth ati i greu rhodfeydd a gerddi hardd gan wario'n helaeth ar waith tirlunio. Cyn bo hir, roedd ystad yr Hafod wedi dod yn gyrchfan poblogaidd iawn i ymwelwyr a theithwyr.
Ffynhonnell: Peter Lord, 'Delweddu'r Genedl: Diwylliant Gweledol Cymru, Cyfrol 2' (Caerdydd, 2000), tt. 146-150.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment