Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lluniwyd y gyfrol hon gan Eliza Pughe, Coch y big, Clynnog a oedd tua 12 oed ar y pryd. Dywed y nodyn bywgraffiadol y tu mewn i'r gyfrol iddi gael ei geni tua'r flwyddyn 1831 a marw tua'r flwyddyn 1850 a'i bod yn fyddar. Mae'n bosib iddi dderbyn ei haddysg yn y cartref gan na ddatblygwyd sustem swyddogol ar gyfer addysgu plant byddar tan yr 1890au, ond tystia'r gyfrol hon i ymdrechion rhywrai i addysgu Eliza Pughe.

Gwelodd ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg nifer o ddatblygiadau pwysig mewn addysg i'r byddar ac mae'n bosib fod y gyfrol hon yn dangos dylanwad hynny. Yn 1817 sefydlodd yr Americanwr Thomas Hopkins Gallaudet (1787-1851) ysgol arloesol a dylanwadol i'r byddar yn yr Unol Daleithiau. Roedd yntau'n gweithredu o dan ddylanwad nifer o arloeswyr gan gynnwys yr Albanwr, Thomas Braidwood (1715-1806) a oedd wedi sefydlu ysgol i'r byddar yng Nghaeredin ym 1760.

Cyfres o ddarluniau a geir yn y gyfrol i gyd-fynd â geiriau pob dydd. Yn ddiddorol iawn yn aml ceir y term Saesneg a'r term Cymraeg o dan y llun. Dywed nodyn y tu mewn i'r clawr i'r gyfrol gael ei rhwymo gan Eben Fardd (Ebenezer Thomas 1802-1863).

Ffynhonnell: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw