Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer, 1802-96) oedd un o noddwyr pwysicaf diwylliant gwerin yn y 19eg ganrif, yn enwedig ym meysydd cerddoriaeth, dawns a gwisg draddodiadol.
Roedd yn ferch i deulu bonheddig o Sir Fynwy a chymerodd ddiddordeb mewn materion Cymreig drwy gydol ei hoes er na siaradai Gymraeg yn rhugl ei hun. Trwy ei chyfeillgarwch â Thomas Price (Carnhuanawc, 1787-1848) daeth yn aelod blaenllaw o gymdeithas ddiwylliannol a gwladgarol y Fenni, sef y Cymreigyddion. Enillodd wobr eisteddfod Caerdydd am draethawd ar yr iaith Gymraeg a'r wisg Gymreig. Tua'r adeg hon hefyd y dechreuodd ddefnyddio'r enw Gwenynen Gwent. Cefnogai Maria Jane Williams (Llinos, 1795-1873), Aberpergwm, yn y gwaith o gasglu alawon gwerin Morgannwg a Gwent. Hithau hefyd oedd yn bennaf gyfrifol am boblogrwydd y delyn deires tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Trwy ei chysylltiadau â'r Cymreigyddion bu'n ddylanwadol yn sefydlu'r 'Welsh Manuscripts Society' ym 1836. Yn ddiweddarach fe ddaeth llawysgrifau Iolo Morganwg i'w meddiant, ac erbyn hyn maent yn rhan o gasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol.
Ond adwaenir hi'n bennaf am lunio delwedd y wisg draddodiadol, sef het a phais a betgwn. Dadleuai yn ei thraethawd eisteddfodol ym 1834 y dylai merched Cymru wisgo dillad traddodiadol. Roedd dillad o wlanen Gymreig yn fwy ymarferol yn ei thyb hi oherwydd eu bod yn addas ar gyfer tywydd pob tymor ac yn eu diogelu rhag y ddarfodedigaeth! Bu mor ddiwyd yn ceisio hybu ei delwedd o'r wisg nes iddi orfodi ei morynion i'w gwisgo wrth eu gwaith ym mhlas Llanofer. Yn y gyfrol 'Dull-wisgoedd Cymreig' ceir cyfres o 17 o ddyfrlliwiau gan A. Cadwaladr a gomisiynwyd ganddi o wisgoedd merched rhai o siroedd Cymru. Mae'n debyg i'r gyfrol hon ysbrydoli arlunwyr eraill fel Alexander F. Rolfe (fl.1839-fl. 1873) a H. Jones (fl. 1824- fl.1849) i greu delweddau tebyg.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (3)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw