Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cafodd John Regan ei gladdu yn agos i’r lle y bu farw wrth ymladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ym mhentref Maricourt ar y Somme. Mae’r ffotograff yma o’i fedd ym Mynwent Filwrol Peronne Road. Ar y bedd mae’r geiriau “Ready Aye Ready”, arwyddair Royal Garrison Artillery Morgannwg.
Ganwyd Sarsiant John Regan ym Mhenarth ar 1 Mai 1882. Ymunodd fel gwirfoddolwr i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn dad i deulu mawr o bedwar bachgen a merch. Roedd ei wraig hefyd yn disgwyl plentyn arall, a anwyd ar 6 Mai 1916 tra bod John yn paratoi i groesi i Ffrainc. Yn anffodus, ni chafodd y cyfle i gwrdd â'i ferch ieuengaf. Bu farw John ar 31 Gorffennaf 1916. Mae bellach wedi ei gladdu ym Mynwent Filwrol Peronne ger Maricourt ar y Somme, yn agos at y fan lle y bu farw.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw