Lluniau teulu a ddanfonwyd i Sarsiant John Regan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Disgrifiadau
Roedd y lluniau yma ym meddiant Sarsiant John Regan pan gafodd ei ladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Lluniau o’u deulu ydynt, ac maent yn cynnwys llun o'i ferch ieuengaf, Eileen yn fabi. Ni chafodd byth y cyfle i gwrdd ag Eileen.
Ganwyd Sarsiant John Regan ym Mhenarth ar 1 Mai 1882. Ymunodd fel gwirfoddolwr i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn dad i deulu mawr o bedwar bachgen a merch. Roedd ei wraig hefyd yn disgwyl plentyn arall, a anwyd ar 6 Mai 1916 tra bod John yn paratoi i groesi i Ffrainc. Yn anffodus, ni chafodd y cyfle i gwrdd â'i ferch ieuengaf. Bu farw John ar 31 Gorffennaf 1916. Mae bellach wedi ei gladdu ym Mynwent Filwrol Peronne ger Maricourt ar y Somme, yn agos at y fan lle y bu farw.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment