Cofeb Rhyfel Byd Cyntaf yn Eglwys Sant Augustine, Penarth
Cofeb Rhyfel Byd Cyntaf yn Eglwys Sant Augustine, Penarth
Disgrifiadau
Un o’r dynion sy’n cael ei goffau ar gofeb Rhyfel Byd Cyntaf y plwyf yw Sarsiant John Regan. Cafodd John Regan ei eni ym Mhenarth ar 1 Mai 1882. Ymunodd fel gwirfoddolwr i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn dad i deulu mawr o bedwar bachgen a merch. Roedd ei wraig hefyd yn disgwyl plentyn arall, a anwyd ar 6 Mai 1916 tra bod John yn paratoi i groesi i Ffrainc. Yn anffodus, ni chafodd y cyfle i gwrdd â'i ferch ieuengaf. Bu farw John ar 31 Gorffennaf 1916. Mae bellach wedi ei gladdu ym Mynwent Filwrol Peronne ger Maricourt ar y Somme, yn agos at y fan lle y bu farw.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment