Trefn gwasanaeth ar gyfer dadorchuddio cofeb Rhyfel Byd Cyntaf, Caerdydd 1921
Disgrifiadau
Cafodd Sarsiant John Regan ei eni ym Mhenarth ar 1 Mai 1882. Ymunodd fel gwirfoddolwr i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn dad i deulu mawr o bedwar bachgen a merch. Roedd ei wraig hefyd yn disgwyl plentyn arall, a anwyd ar 6 Mai 1916 tra bod John yn paratoi i groesi i Ffrainc. Yn anffodus, ni chafodd y cyfle i gwrdd â'i ferch ieuengaf. Bu farw John ar 31 Gorffennaf 1916. Mae bellach wedi ei gladdu ym Mynwent Filwrol Peronne ger Maricourt ar y Somme, yn agos at y fan lle y bu farw.
Ar ôl y rhyfel, fe adeiladodd Royal Garrison Artillery Morgannwg cofeb yn Eglwys Sant Ioan, Caerdydd, i’r cyd-filwyr a bu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyma gopi o drefn y gwasanaeth i ddadorchuddio’r gofeb, a oedd yn berchen i wraig Sarsiant John Regan. Allan o 69 enw ar y gofeb, roedd 18 wedi gwasanaethu gyda’r 113 Siege Battery, ac o’r rheini roedd 5 yn dyfod o Benarth.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment