Skip to main content

Geiriadur oedd yn perthyn i filwr Rhyfel Byd Cyntaf

Disgrifiadau

Cafodd Sarsiant John Regan ei eni ym Mhenarth ar 1 Mai 1882. Ymunodd fel gwirfoddolwr i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn dad i deulu mawr o bedwar bachgen a merch. Roedd ei wraig hefyd yn disgwyl plentyn arall, a anwyd ar 6 Mai 1916 tra bod John yn paratoi i groesi i Ffrainc. Yn anffodus, ni chafodd y cyfle i gwrdd â'i ferch ieuengaf. Bu farw John ar 31 Gorffennaf 1916. Mae bellach wedi ei gladdu ym Mynwent Filwrol Peronne ger Maricourt ar y Somme, yn agos at y fan lle y bu farw.
Un o'r eitemau a ddychwelwyd i weddw John Regan oedd y geiriadur poced aeth gydag ef i ryfel. Y tu mewn i'r clawr cefn ysgrifennodd enwau a phen-blwyddi ei blant. Mae enw Eileen, ei ferch ieuengaf nad oedd erioed wedi cyfarfod, wedi ei wasgu i mewn ar waelod y dudalen.

Owner:
Kathleen Williams
Crëwr:
Collins
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Collins 1888
Eitem wedi’i llwytho:
10/10/2018
Gwelediadau:
754
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment