Llythyr o gydymdeimlad Rhyfel Byd Cyntaf
Disgrifiadau
Llythyr o gydymdeimlad a anfonwyd at Mrs Regan ar ôl ei gŵr Sgt John Regan gael ei ladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ysgrifennwyd y llythyr gan T Bartlett. Dim ond y dudalen olaf sydd ar glawr. Cafodd Sarsiant John Regan ei eni ym Mhenarth ar 1 Mai 1882. Ymunodd fel gwirfoddolwr i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn dad i deulu mawr o bedwar bachgen a merch. Roedd ei wraig hefyd yn disgwyl plentyn arall, a anwyd ar 6 Mai 1916 tra bod John yn paratoi i groesi i Ffrainc. Yn anffodus, ni chafodd y cyfle i gwrdd â'i ferch ieuengaf. Bu farw John ar 31 Gorffennaf 1916. Mae bellach wedi ei gladdu ym Mynwent Filwrol Peronne ger Maricourt ar y Somme, yn agos at y fan lle y bu farw.
Cafodd yr Uwch-ringyll T Bartlett, a ysgrifennodd y llythyr ei ladd fis ar ôl John Regan ar 30 Awst 1919, ynghyd â 5 aelod arall o RGA Morgannwg a oedd yn gwasanaethu gyda Batri 113; Bombardier Hunter, Gynnwr Boyle, Gynnwr Grant, Gynnwr T Jones a Gynnwr H White.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment