Skip to main content

Llythyr o gydymdeimlad i Mrs Regan, 4 Awst 1916

Disgrifiadau

Llythyr o gydymdeimlad i Mrs Regan ar ôl ei gŵr Sarsiant John Regan gael ei ladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn yr amser hwn, bysai Mrs Regan wedi derbyn telegram oddi wrth y Swyddfa Ryfel yn ei hysbysu am farwolaeth ei gŵr. Fel y gellir gweld o’r llythyr, roedd John Regan yn aelod gwerthfawr o’i fatri.

Cafodd Sarsiant John Regan ei eni ym Mhenarth ar 1 Mai 1882. Ymunodd fel gwirfoddolwr i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn dad i deulu mawr o bedwar bachgen a merch. Roedd ei wraig hefyd yn disgwyl plentyn arall, a anwyd ar 6 Mai 1916 tra bod John yn paratoi i groesi i Ffrainc. Yn anffodus, ni chafodd y cyfle i gwrdd â'i ferch ieuengaf. Bu farw John ar 31 Gorffennaf 1916. Mae bellach wedi ei gladdu ym Mynwent Filwrol Peronne ger Maricourt ar y Somme, yn agos at y fan lle y bu farw.

Owner:
Kathleen Williams
Crëwr:
unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Kathleen Williams 2013
Eitem wedi’i llwytho:
10/10/2018
Date originally created:
4/8/1916
Gwelediadau:
1074
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment