Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr a anfonodd Henry Jones, brodor o Lanfihangel-y-Pennant at ei frawd a chwaer, 18 Medi 1850. Roedd Henry wedi ymfudo i Holland Patent, Talaith Efrog Newydd.

Dywed Henry ei fod wedi cyfarfod nifer o bobl yr oedd yn eu hadnabod o Sir Feirionnydd. Sonia am y dathliadau a gynhaliwyd yn Utica ar 4 Gorffennaf, i ddathlu 'Diwrnod Annibyniaeth'. Mae ei iechyd yn dda ac mae ei Saesneg yn gwella'n gyflym. Dywedodd ei gyflogwr wrtho ei fod yn siarad Saesneg gystal â'r ymfudwyr sydd wedi byw yn America ers pum mlynedd. Dywed y bydd yn medru siarad Saesneg â gwraig ei frawd Ellis pan fydd yn dychwelyd adref.

Nid oes angen i'w chwaer anfon unrhyw beth ato gan fod nifer o bethau, gan gynnwys dillad, yn rhatach o lawer i'w prynu yn America. Fodd bynnag, byddai'n ddiolchgar iawn petai hi'n anfon y gerdd a gyfansoddwyd iddo gan ei dad a'i ewythr Morris.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw