Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyma ddarn o waith gan y Parchedig William Williams, Pantycelyn (1717-1791), yn ei law ei hun. Nid yw'n ymddangos i'r darn hwn gael ei gyhoeddi erioed.

Ganed 'Williams Pantycelyn' yng Nghefn-coed, ger Llanymddyfri ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin. Derbyniodd ei addysg yn Academi Llwyn-llwyd a'i fwriad oedd mynd yn feddyg. Fodd bynnag, ar ôl iddo glywed Howell Harris (1714-1773) yn pregethu yn Nhalgarth, cafodd Williams droedigaeth. Ymunodd â'r Eglwys a chafodd ei ordeinio'n ddiacon ym 1740. Yn ystod y blynyddoedd dilynol, trôdd ei sylw fwyfwy at y mudiad Methodistaidd a chyn hir, ef oedd un o arweinwyr mwyaf blaenllaw'r mudiad yng Nghymru. Ar ôl iddo briodi ym 1748 aeth i fyw i hen gartref ei fam, Pantycelyn, yn ei blwyf enedigol. Ystyrir Williams yn un o emynwyr pwysicaf a mwyaf poblogaidd Cymru; yn wir, cymaint oedd ei gyfraniad ym maes emynyddiaeth fel iddo gael ei anrhydeddu gyda'r teitl 'Y Pêr Ganiedydd'. Cyfansoddodd dros 800 o emynau ac mae nifer fawr ohonynt yn dal i gael eu canu heddiw. Roedd hefyd yn fardd a chyhoeddodd sawl darn o ryddiaith yn ogystal. Bu farw ym 1791 a chafodd ei gladdu ym mynwent eglwys Llanfair-ar-y-bryn, Llanymddyfri.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw