Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Goronwy Owen (1723-69) oedd un o feirdd amlycaf Cymru'r ddeunawfed ganrif a meistr ar y gynghanedd. Cynnwys y llawysgrif yma gopi drafft anghyflawn o'i gywydd 'Hiraeth' yn llaw un arall o ŵyr amlwg y ganrif honno, Lewis Morris (1701-65).

Ganed Goronwy Owen ym 1723 i deulu tlawd ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Ynys Môn. Bu ei fam, Siân Parry, yn forwyn ym Mhentre-eiriannell, cartref Lewis Morris a oedd yn aelod o deulu enwog y Morysiaid. Roedd ei dad, Owen Gronw, yn grefftwr a gallai gynganeddu i ryw raddau. Mynychodd Ysgol Friars, Bangor lle dysgodd Ladin a Groeg i safon uchel. Cymerodd hefyd ddiddordeb arbennig mewn barddoniaeth ac erbyn iddo fod yn ddwy-ar-bymtheg oed, yn ôl ei dystiolaeth ei hun, gallai gystadlu yn erbyn beirdd llawer hyn. Anogwyd ei ddatblygiad fel bardd gan Lewis Morris.

Wedi cyfnod byr yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen bu'n athro cynorthwyol ym Mhwllheli a Dinbych, ac yna'n gurad yn Llanfair Mathafarn am flwyddyn, ond bu raid iddo ymadael. Symudodd oddi yno i Groesoswallt lle priododd am y tro cyntaf ym 1747. Dihangodd oddi yno i osgoi casglwyr dyledion ac aeth i Donnington ger yr Amwythig lle cynhyrchodd nifer o'i gerddi mwyaf adnabyddus. Oddi yno aeth i Walton a Northolt, Llundain ond erbyn hyn roedd yn byw'n gynyddol afraid a phoenai Lewis Morris ei fod am golli ei swydd fel curad. Ym 1757 derbyniodd swydd athro mewn ysgol ramadeg yn Williamsburgh, Virginia. Bu farw ei wraig a phlentyn iddo ar y fordaith. Ailbriododd yn America ond bu farw ei ail wraig o fewn ychydig fisoedd. Collodd ei swydd yn yr ysgol o ganlyniad i'w or-yfed a threuliodd ei flynyddoedd olaf fel person plwy St. Andrew's, Brunswick County lle bu iddo briodi am y trydydd tro.

Ceisiodd Owen adfer barddoniaeth Gymraeg o'i dirywiad yn dilyn ymseisnigo noddwyr traddodiadol y beirdd, sef y bonedd Cymreig. Credai y gellid ail-ddehongli'r mesurau caeth traddodiadol ar gyfer ei oes ei hun. Yn lle cywyddau yn moli perchentyaeth bonheddwyr, ceir cerddi yn delio â themâu fel hiraeth a myfyrdodau ar y bywyd Cristnogol. Ymhlith ei gerddi gorau y mae 'Cywydd yn ateb Huw'r Bardd Coch o Fôn' ac 'Awdl Gofuned'.

Fel arfer cyfeirir at y cywydd 'Hiraeth' a geir mewn fersiwn drafft anghyflawn yn y llawysgrif hon wrth deitl llawn y fersiwn gorffenedig sef 'Cywydd ateb i annerch Huw ap Huw'r bardd o Lwydiarth Esgob, ym Môn' neu weithiau wrth y teitl byrrach 'Cywydd molawd Môn'. Cyfansoddwyd y cywydd tua 1756 pan oedd Goronwy'n byw yn Northolt yn Llundain.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw