Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Mae dyddiadur Elizabeth Baker yn cynnig golwg hynod ar fywyd cymdeithasol tref farchnad Dolgellau a'r ardal yn ystod y cyfnod rhwng 1778 a 1786; yn wir, disgrifiwyd y dyddiadur gan Ben Bowen Thomas fel 'drych o'r cyfnod'.
Ganed Elizabeth Baker tua'r flwyddyn 1720 yn Swydd Warwick. Credir i gysylltiad Elizabeth Baker â thref Dolgellau ddechrau tua'r flwyddyn 1770, pan dderbyniodd hithau a'i ffrind, Mrs. Gilbert, yr hawl i enillion prydles yn Pimlico, a oedd yn cynnwys breinhawl i fwyngloddio ar Diroedd y Goron yng nghanol Sir Feirionnydd. Ymunodd dau ŵr yn y fenter ac ar 25 Gorffennaf 1770, teithiodd Elizabeth Baker o Lundain i Ddolgellau er mwyn gwneud y trefniadau angenrheidiol i ddatblygu'r hawliau mwyngloddio. Dyna'r tro olaf iddi weld Llundain gan iddi dreulio gweddill ei hoes yn ardal Dolgellau. Ar ôl cyrraedd Dolgellau, aeth Elizabeth i letya gyda'r cariwr a'r postman lleol, ac yn sgil hynny daeth i gysylltiad â Hugh Vaughan, sgweier Hengwrt. Cyn bo hir, fodd bynnag, roedd y fenter mwyngloddio plwm wedi mynd i drafferthion ac ni chafwyd llawer o gymorth ariannol gan y partneriaid busnes yn Llundain. Aeth Elizabeth yn brin o arian a gofynnwyd iddi adael ei llety, ond erbyn 1771 roedd Hugh Vaughan wedi cynnig cartref iddi yn Hengwrt. Dechreuodd Elizabeth weithio iddo fel ysgrifenyddes bersonol ac, ymhen dim, roedd yn ei chanol hi yn ei gynorthwyo gyda'i faterion ariannol a chyfreithiol. Erbyn 1778, fodd bynnag, roedd Hugh Vaughan yntau wedi mynd yn fethdalwr a bu'n rhaid i Elizabeth adael Hengwrt.
Mae'r dyddiadur yn dechrau ar yr adeg gythryblus hon. Ar 6 Rhagfyr 1778, gadawodd Elizabeth Hengwrt gan symud i dŷ agweddi cyfagos Doluwcheogryd, cyn i'r beilïaid ei gorfodi i symud i Fryn Adda. Ym 1784, symudodd Elizabeth i fwthyn bychan yn Nolgellau lle treuliodd gweddill ei hoes. Mae'r dyddiadur yn cynnwys llawer o wybodaeth ynghylch ymgais Hugh Vaughan i ailsefydlu ei ffortiwn. Yn ystod y blynyddoedd hyn, bu Elizabeth yn byw mewn tlodi, ac roedd yn gwbl ddibynnol ar elusennau lleol a chyfraniadau ariannol achlysurol o Lundain. Yn ogystal â chofnodi'r digwyddiadau hyn, ysgrifennodd Elizabeth gronicl manwl o fywyd cymdeithasol trigolion Dolgellau a'r cyffiniau. Mae ei dyddiadur nid yn unig yn disgrifio bywyd y teuluoedd bonedd lleol, ond hefyd yn cynnig sylwebaeth fanwl ar nifer o arferion y dosbarthiadau cymdeithasol is. Ceir disgrifiadau o arferion bwyta ac yfed y cyfnod, dyletswyddau o amgylch y tŷ, a digwyddiadau cymdeithasol, fel priodasau, angladdau a dathliadau lleol. Er iddi ymgartrefu yn Nolgellau, arhosodd Elizabeth ar gyrion y gymdeithas hon i raddau helaeth: roedd wrth ei bodd yn darllen papurau newydd Llundain ac ymddengys nad oedd ganddi fawr o grap ar y Gymraeg, iaith y boblogaeth leol. Daw dyddiadur Elizabeth i ben ar 31 Mawrth 1786; nid ydym yn gwybod rhyw lawer amdani o'r dyddiad hwnnw at ddiwrnod ei chladdu yn Nolgellau ar 26 Tachwedd 1789.
Ffynonellau: Ben Bowen Thomas, 'The Old Order, based on the Diary of Elizabeth Baker' (Cardiff, 1945); Simone Clarke, 'Visions of Community: Elizabeth Baker and Late-Eighteenth Century Merioneth' yn Michael Roberts a Simone Clarke (goln.), 'Women and Gender in Early Modern Wales' (Cardiff, 2000).
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (1)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw