Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Katherine Philips oedd un o'r awduresau cyntaf ym Mhrydain i ennill cydnabyddiaeth broffesiynol a chyhoeddus.

Fe'i ganed ar Ddydd Calan, 1632, ac fe'i magwyd mewn teulu dosbarth canol Piwritanaidd. Wedi marwolaeth ei thad, fe ailbriododd ei mam ddwywaith, y trydydd tro â Syr Richard Phillipps, Castell Picton, Sir Benfro. Daeth Katherine i Gymru gyda'i mam ym 1646. Ym 1648, pan oedd ond yn 16, fe ddyweddïodd â Chyrnol James Philips, Tregibby, gan ymgartrefu yn nhŷ ei gŵr yn y Priordy ger Eglwys y Santes Fair yn Aberteifi.

O bryd hynny ymlaen, rhannodd Katherine Philips ei hamser rhwng Llundain a Chymru ac mae ei barddoniaeth yn adlewyrchu'r ddwy gymdeithas y bu hi'n rhan ohonynt. Dechreuodd alw ei hun yn 'Orinda', ac ychwanegodd ei ffrindiau a'i hedmygwyr yr ansoddair 'matchless' [digyffelyb].

Dywedir mai'r gyfrol hon yw'r llawysgrif bwysicaf o gerddi Katherine Philips. Mae'n cynnwys hanner cant a thair o gerddi neu ddarnau o gerddi, a theitlau dwy gerdd arall, i gyd yn ei llawysgrifen ei hun.

Fe ymddengys fod Orinda wedi defnyddio'r llawysgrif hon yn wreiddiol i gadw copïau hardd o'i cherddi, o bosibl dros gyfnod o nifer o flynyddoedd. Yn wreiddiol, ysgrifennodd ar bob yn ail dudalen, ac ar ryw bwynt fe drodd y llawysgrif o chwith gan ddechrau defnyddio'r tudalennau a oedd wedi'u gadael yn wag. Mae perchennog diweddarach wedi ysgrifennu nodiadau rhwng rhai cerddi.

I gynorthwyo'r defnyddiwr, mae hanner olaf y llawysgrif, a drowyd o chwith gan Katherine Phillips, hefyd wedi'i droi yn ôl ar gyfer ei arddangos, ac maent yn cael eu dangos yn y drefn cawsant eu hysgrifennu. Nid yw'r tudalennau gweigion wedi'u copïo.

Mae llawer o'r farddoniaeth yn y gyfrol hon wedi'i chyfeirio at grŵp dethol o ffrindiau yng ngorllewin Cymru a Llundain. Mae themâu cyfeillgarwch a chariad yn ymddangos yn aml yn ei barddoniaeth ac mae rhai o'r cerddi yn wefreiddiol iawn, gan gynnwys un a ysgrifennwyd wedi marwolaeth ei mab ym 1655.

Bu farw Orinda ym 1664, fel ag yr oedd yn dechrau ennill enw da yn eang fel bardd a dramodydd. Cyhoeddwyd casgliad o'i gwaith yn ystod yr un flwyddyn o dan y teitl 'Poems by the Incomparable Mrs K(atherine) P(hilips)'.

[Ffynhonnell: Patrick Thomas, 'The Collected Works of Katherine Philips: The Matchless Orinda', Cyfrol I: Y Cerddi (Caergrawnt, 1990)]

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw