Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr taith neu lythyr neithior yn gwahodd y gwesteion i briodas Daniel Davies a Margaret Rees, a gynhelir ar 4 Gorffennaf 1854.

Yn ardaloedd gwledig de-orllewin Cymru, roedd yn arfer cyffredin cyn cynnal priodas i wahodd y gwahoddedigion i'r seremoni a'r wledd, neu'r neithior. Cyn dyfodiad y 'post ceiniog' cyflogid 'gwahoddwr' i alw yn nhai ffrindiau a chydnabod er mwyn traddodi'r gwahoddiad ar lafar. Fodd bynnag, erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, daeth yr arfer o anfon 'llythyr taith' yn fwyfwy poblogaidd. Er bod y llythyr taith a'r 'stori wadd' yn debyg iawn mewn sawl ystyr, gan eu bod ill dau yn glynu at drefn eithaf sefydlog, nid oedd y llythyr yn cynnwys yr elfennau o hiwmor a oedd mor amlwg yn y cyflwyniad llafar. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y traddodiad llafar ac ysgrifenedig ymron â dod i ben yng Nghymru.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw