Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Agorwyd yr adeilad ym 1829 yn gyfuniad o lys, llety ar gyfer barnwyr, a chanolfan weinyddol ar gyfer Sir Faesyfed. Ar y pryd roedd yr adeilad yn costio ychydig dros 7,000 i'w godi. Mae bellach wedi cael ei adfer yn llwyr gan ddefnyddio'r lliwiau a ddefnyddid ym 1865, pan gafodd yr adeilad ei baentio gyda phaent melyn ocr a brown 'Carson's Anti-Corrosive Paint'. Mae'r lliwiau wedi cael eu cymysgu'n arbennig gan ddefnyddio samplau o baent a oedd wedi goroesi o dan yr haenau mwy diweddar. Mae'r colofnau lliw carreg wedi eu gwneud o haearn bwrw - rhatach o lawer na charreg go iawn - gan arbed llawer o arian.

Ffynhonnell: Amgueddfa Llety'r Barnwr

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw