Paentiad di-deitl o fythynnod gan Joseph Murray Ince, 1850au
Disgrifiadau
Roedd Joseph Murray Ince (1806-59) yn arlunydd llwyddiannus, sydd yn fwyaf adnabyddus am ei dirluniau. Cafodd ei eni yn Llundain ym mis Ebrill 1806 ond symudodd gyda'i rieni i ardal Llanandras pan oedd yn blentyn ifanc, a chredir iddo fynychu Ysgol Ramadeg Rad John Beddoes pan oedd yr ysgol ar ei safle gwreiddiol gyferbyn â'r eglwys. Ar ôl derbyn gwersi preifat yn Henffordd symudodd i Lundain ym 1826 i dderbyn hyfforddiant pellach. Dychwelodd i Lanandras ym 1830 gan wneud enw i'w hun fel paentiwr tirluniau. Roedd ganddo swyddfeydd yn Llundain hefyd gan fod angen iddo gadw mewn cysylltiad agos â'r orielau a'u cwsmeriaid cyfoethog. Paentiodd nifer o dirluniau a lluniau o blastai, yn ogystal â chyfres o ddarluniau o golegau Prifysgol Caergrawnt.
Disgrifiad: Prosiect Hanes Digidol Powys
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment