Band arddwrn a ddarganfuwyd ar safle'r Carneddau, ger Carno
Disgrifiadau
Band arddwrn o safle'r Carneddau, ger Carno.
Daethpwyd o hyd i'r band arddwrn carreg hwn mewn lle tân ar hen wyneb y ddaear o dan y garnedd. Roedd wedi torri ac wedi gwisgo. Byddai'r band hwn wedi cael ei glymu o amgylch yr arddwrn a blaen y fraich gan gortyn a fyddai wedi mynd drwy'r tyllau ym mhob pen. Mae'n debyg y byddai saethwyr yn gwisgo bandiau o'r fath er mwyn gwarchod blaen eu breichiau wrth i linyn y bwa adlamu. Mae bandiau o'r fath yn brin iawn; yn wir, dyma'r ail yn unig i gael ei ddarganfod yng Nghymru.
Yn ystod haf 1989, mewn ymateb i fwriad i blannu coed yn yr ardal, aeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys ati i gloddio carnedd o'r Oes Efydd, gerllaw Carno, er mwyn chwilio am unrhyw wybodaeth archaeolegol a oedd wedi ei chladdu yno.
Darganfuwyd bod y safle yn dyddio o c. 1800 CC a bod iddo hanes cymhleth, gan iddo gael ei addasu a'i ehangu sawl gwaith. Roedd y claddedigaethau a'r defodau claddu a gynhaliwyd ar y safle hefyd yn rhai cymhleth ac yn cynnwys coelcerthi angladdol a chladdedigaethau amlosgi.
Ym 1990, aethpwyd ati i gloddio ymhellach ar safle cofadail gerllaw a darganfuwyd bod yno garnedd arall yn dyddio o'r Oes Efydd. Roedd y garnedd hon yn debyg iawn i'r un a gloddiwyd ym 1989 ac yn cynnwys nifer o gladdedigaethau amlosgi wedi eu gosod mewn tyllau a gloddiwyd yn y ddaear.
Disgrifiad: Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Trefaldwyn
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment