Sash Urdd Hynafol y Coedwigwyr 'Cwrt Powys'
Disgrifiadau
Sash a oedd yn eiddo i aelod o Urdd Hynafol y Coedwigwyr 'Cwrt Powys', un o nifer o Gymdeithasau Cyfeillgar a oedd yn bodoli yng Nghymru o ddiwedd y 18fed ganrif. Arferai Urdd Hynafol y Coedwigwyr 'Cwrt Powys' gyfarfod yn Y Trallwng.
Ers canol y 18fed ganrif roedd sefyllfa'r tlodion yn wael iawn gan fod cyflogau yn isel, a newyn, afiechyd a phrisiau uchel yn ychwanegu at eu problemau. Er mwyn ceisio gwella sefyllfa'r tlodion, sefydlwyd Cymdeithasau Cyfeillgar yng Nghymru a Lloegr. Eu nod oedd cynorthwyo'r tlodion pan fyddent yn wael eu hiechyd neu yn dilyn marwolaeth aelod o'r teulu.
Byddai aelodau'r Cymdeithasau Cyfeillgar yn talu cyfraniad ariannol misol, a byddai'r arian hwnnw yn hel ac yn cael ei dalu i'r aelodau pan fyddent ei angen. Byddai swm penodol yn cael ei dalu i weithiwr a oedd yn methu â gweithio oherwydd salwch neu i aelodau teulu a oedd yn wynebu anawsterau ariannol yn dilyn marwolaeth y penteulu. Byddai'r Cymdeithasau Cyfeillgar hefyd yn talu pensiynau i weithwyr wedi iddynt ymddeol ac yn cyfrannu at gostau teithio petai'n rhaid i weithiwr chwilio am waith ymhell o'i gartref.
Roedd yn rhaid i aelodau'r Cymdeithasau Cyfeillgar gadw at reolau caeth iawn, a'r pwysicaf o'r rhain oedd y rheol ddirwest - hynny yw, ni fyddai'r Cymdeithasau yn derbyn aelodau a oedd yn yfed diod feddwol. Yn y lle cyntaf, roedd y Cymdeithasau Cyfeillgar yn anghyfreithlon, ac felly roedd yr aelodau yn defnyddio cyfrineiriau ac arwyddion cyfrinachol. Cafodd y Cymdeithasau eu cyfreithloni ar ddiwedd y 19eg ganrif ac mae rhai yn dal i fodoli hyd heddiw. Maent yn gweithredu yn debyg iawn i gwmnïau yswiriant a chymdeithasau adeiladu, gan gynorthwyo eu haelodau gyda thaliadau salwch, yswiriant a morgeisi.
Disgrifiad: Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Trefaldwyn
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment