Skip to main content

Wrn o'r Oes Efydd a ddarganfuwyd ar safle'r Carneddau, ger Carno

Disgrifiadau

Wrn â choler a ddarganfuwyd wrth gloddio safle Carneddau II.

Yn ystod haf 1989, mewn ymateb i fwriad i blannu coed yn yr ardal, aeth Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys ati i gloddio carnedd o'r Oes Efydd, gerllaw Carno, er mwyn chwilio am unrhyw wybodaeth archaeolegol a oedd wedi ei chladdu yno.

Darganfuwyd bod y safle yn dyddio o c. 1800 CC a bod iddo hanes cymhleth, gan iddo gael ei addasu a'i ehangu sawl gwaith. Roedd y claddedigaethau a'r defodau claddu a gynhaliwyd ar y safle hefyd yn rhai cymhleth ac yn cynnwys coelcerthi angladdol a chladdedigaethau amlosgi.

Ym 1990, aethpwyd ati i gloddio ymhellach ar safle cofadail gerllaw a darganfuwyd bod yno garnedd arall yn dyddio o'r Oes Efydd. Roedd y garnedd hon yn debyg iawn i'r un a gloddiwyd ym 1989 ac yn cynnwys nifer o gladdedigaethau amlosgi wedi eu gosod mewn tyllau a gloddiwyd yn y ddaear. Roedd rhai o'r claddedigaethau hyn wedi cael eu gosod mewn yrnau â choleri, fel yr enghraifft a welir yma.

Mae coler yr wrn (y gwddf) wedi ei addurno â chortyn neu linyn wedi ei droi a wasgwyd i'r clai cyn i'r potyn sychu. Defnyddiwyd technegau radiocarbon i archwilio'r golosg a ddarganfuwyd yn yr wrn ac fe'u dyddiwyd i'r flwyddyn c. 1700 CC.

Disgrifiad: Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Trefaldwyn

Owner:
Powysland Museum & Montgomery Canal Centre
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Trefaldwyn
Copyright Details:
Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Trefaldwyn 1970
Publisher Ref:
GTJ23543
Eitem wedi’i llwytho:
29/1/2010
Date originally created:
2300-3699
BC
Gwelediadau:
980
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment